#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-773

Teitl y ddeiseb: P-05-773 Peidiwch â Llenwi Tirlenwi

Testun y Ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i naill ai cyflwyno sticeri newydd ar gyfer biniau olwynion du (gweler yr enghraifft isod) neu finiau olwynion printiedig sy'n annog cartrefi ledled Cymru i ystyried cynnwys y bin cyn ei adael ar ochr y ffordd i'w gasglu.

Teimlwn, trwy ddisgrifio'r bin yn benodol fel bin 'tirlenwi', bydd hyn yn atgyfnerthu ystyriaeth o ran yr eitemau sydd ynddo. Rydym wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth ffeithiol am faint o amser y bydd rhai eitemau bob dydd yn aros mewn safleoedd tirlenwi os na chânt eu hailgylchu. Credwn fod hyn yn bwerus iawn ac efallai y bydd yn gwella ymrwymiad Cymru i ailgylchu ac felly cwrdd â'n targedau ar gyfer y dyfodol. 

Yn y pen draw, rydym am annog pobl i ailgylchu mwy yn ogystal â helpu i leihau'r nwyddau ailgylchadwy sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Ffigur 1 Enghraifft o sticer bin olwynion

 

Cefndir

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff ym mis Mehefin 2010. Mae'r strategaeth yn nodi fframwaith hirdymor ar gyfer effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff hyd at 2050. Mae'n nodi'r canlyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno eu cyflawni, yn gosod targedau lefel uchel ac yn gosod dull cyffredinol at gyflawni targedau a chamau allweddol eraill. Mae'r strategaeth yn gosod nod ar gyfer bod mor agos â phosibl at ddim tirlenwi (<5%) erbyn 2025, gydag uchelgais o ddim gwastraff erbyn 2050.

O fis Ebrill 2018, bydd Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) yn disodli'r Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Fel y Dreth Tirlenwi oedd yn rhagflaenydd iddi, bydd Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Bydd yn daladwy gan weithredwyr safleoedd tirlenwi, sy'n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff trwy eu ffi giât. Mae Treth Tirlenwi wedi bod yn sbardun sylweddol i wella ymddygiad amgylcheddol; gan annog mwy o atal, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff.

Mae gan Gymru'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU, yr ail uchaf yn Ewrop, a'r trydydd uchaf yn y byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu targedau ailgylchu ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru mewn ymgais i gynyddu ailgylchu. Roedd yn rhaid i awdurdodau ailgylchu 58% o'u gwastraff erbyn 2016-17, gan godi i 64% erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25. Adolygir y ffigurau bob tri mis a chânt eu hychwanegu at gyfanswm treigl 12 mis dros dro. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mawrth 2017, gyda'r data terfynol yn cael ei ryddhau ym mis Hydref. Mae data dros dro am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2017 (a gyhoeddwyd ym mis Awst) yn dangos cynnydd o 4% ar gyfradd ailgylchu 60% y flwyddyn flaenorol. Dangosodd y ffigurau fod pob un ond un awdurdod lleol - Blaenau Gwent - wedi cwrdd â tharged cyfredol 2016-17. Yr awdurdod lleol oedd yn perfformio orau oedd Ceredigion, gan ailgylchu 70% o'i wastraff a tharo'r targed 2025 naw mlynedd yn gynnar. Er bod Blaenau Gwent wedi methu'r targed o 58%, roedd ei gyfradd ailgylchu o 57% yn gynnydd ar y 49% a welwyd flwyddyn yn gynharach.

Gwastraff bagiau du/gweddilliol

Un o nodau strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru yw lleihau faint o wastraff gweddilliol a gynhyrchir gan aelwydydd.  Mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ar faint o fagiau du y gellir eu rhoi allan i'w casglu, ac mae gwastraff bagiau du yn cael ei gasglu yn llai aml nag ailgylchu (fel arfer bob 2-3 wythnos) i annog mwy o ailgylchu. Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (Ionawr i Fawrth 2017)  yn dangos bod mwy na hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi nodi gostyngiad yn y gwastraff aelwydydd gweddilliol a gynhyrchir fesul person, o'i gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Mae gwastraff gweddilliol fesul annedd hefyd wedi gostwng o 111 i 106 kg fesul annedd.

Yn ôl y ffigurau a ddyfynnwyd yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor, yn 2015-16 anfonwyd mwy na 300,000 tunnell fetrig o wastraff trefol (gwastraff bagiau du/gweddilliol) i'w llosgi gan adennill ynni a chafodd llai na 290,000 tunnell fetrig eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Dywed fod hyn yn dangos cyfyngiad dull seiliedig ar labelu biniau fel rhai ar gyfer  'tirlenwi' gan yn gynyddol mae'r cynnwys yn cael ei anfon i'w losgi gan adennill ynni.

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy i berswadio pobl i wahanu eu gwastraff yn well, er mwyn sicrhau bod llai o wastraff ailgylchadwy a gwastraff bwyd yn cael eu rhoi mewn biniau gwastraff gweddilliol.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru o swyddogion a chynrychiolwyr Llywodraeth Leol wedi cytuno bod angen menter newid ymddygiad newydd, gyda'r nod o ddargyfeirio cymaint o ddeunydd ailgylchadwy â phosibl o wastraff gweddilliol i gynwysyddion ailgylchu, gan gynnwys blychau gwastraff bwyd. Dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod y fenter ar hyn o bryd yn y camau dylunio, ac mae'n gobeithio y bydd yn cychwyn yn 2018. Mae'r llythyr yn amlinellu bod sawl agwedd ar newid ymddygiad, gan gynnwys:

§    Darparu'r seilwaith casglu cywir ar gyfer trigolion i wahanu deunyddiau ailgylchadwy a gwastraff bwyd yn effeithiol o wastraff na ellir ei ailgylchu;

§    Rhoi arweiniad ar sut y dylid defnyddio'r gwasanaethau hyn a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr angen i'w defnyddio; a

§    Darparu gorfodaeth effeithiol yn erbyn y rhai sy'n methu'n barhaus â pherfformio eu dyletswydd ddinesig i wahanu deunyddiau i'w hailgylchu.

Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud bod sawl awdurdod lleol yng Nghymru wedi rhoi sticeri ar finiau olwynion gan ddweud na ddylid rhoi gwastraff bwyd ynddynt, ac y cafwyd bod hyn yn cynyddu maint y gwastraff bwyd a gesglir ar wahân. O ran sticeri ar finiau'n fwy eang, dywed:

Mae'n bosib y bydd gosod sticeri ar finiau yn rhan o fentrau yn y dyfodol, ond mae cymaint mwy i berswadio pobl i ailgylchu'n effeithiol.

 

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r rhan fwyaf o'r drafodaeth ar dirlenwi yn y Cynulliad wedi canolbwyntio ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (a amlinellir uchod). Yn 2014, cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ymchwiliad i bolisi ailgylchu yng Nghymru. Ffocws yr ymchwiliad oedd sut i wella cyfraddau ac ymarfer ailgylchu yng Nghymru, ac nid oedd yn mynd i'r afael yn benodol â mater gwastraff gweddilliol. Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i'r casgliad a ganlyn:

Gallai cyfuniad o gyfathrebu ac ymgysylltu da, ynghyd â gostyngiad mewn casgliadau gwastraff gweddilliol ('bagiau du'), wella cyfraddau ailgylchu eto. Er y gallai fod rôl i ddefnyddio cosbau ariannol yn y dyfodol, byddai'n rhy gynnar i ystyried eu cyflwyno hyd nes bod y ffyrdd eraill o annog pobl wedi methu.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.